Annwyl Gadeirydd,
Dymunaf eich diweddaru ynghylch adroddiadau diweddar yn y wasg. Ar brynhawn 12 Hydref, fe ddiswyddwyd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C, yn dilyn adroddiad o gamymddwyn difrifol.
Hoffwn gynnig sicrwydd i chi bod gwaith bwysig S4C wrth wasanaethu ei gwylwyr yn parhau, ac rydym yn ymrwymedig i’n Strategaeth 2022-27 â’r amcan o ddarparu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg ar draws amryw lwyfannau, gan gael y gwerth gorau posib am arian i’n cynulleidfa.
Dros dro, bydd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi cyfredol S4C, yn ymgymryd â chyfrifoldebau’r Brif Swyddog Cynnwys ac yn arwain y broses gomisiynu a chyhoeddi gyda chefnogaeth ei dîm.
Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych am drafod unrhyw beth.
Yn gywir,
Rhodri Williams
Cadeirydd S4C